Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

13 Mehefin 2022

SL(6)202 Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 34 a 47(1) o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi. Mae’r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, sydd hefyd wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”) fel y maent y gymwys o ran Cymru. Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cymhwyso’r metrig newydd ar gyfer mesur effeithlonrwydd ynni ar ffurf cyfradd ynni crai darged i anheddau newydd. Yn flaenorol, roedd cyfraddau defnyddio ynni crai yn gymwys i adeiladau ac eithrio anheddau.

Mae’r diwygiadau hefyd yn cyflwyno sgoriau effeithlonrwydd ynni newydd i adeiladau newydd ac yn cyflwyno rheoliad newydd ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle ac mewn perthynas â gorgynhesu (yn enwedig yn rhinwedd mewnosod paragraff L2 yn Rhan L o Atodlen 1 i’r Rheoliadau Adeiladu a Rhan O newydd). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio sut y cymhwysir Rhan F sy’n ymwneud â phrofion llif awyr awyru mecanyddol.

Gwneir diwygiadau i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer gwaith adeiladu ar adeilad penodol pan fo’r gwaith adeiladu wedi ei ddechrau yn unol â darpariaeth hysbysu berthnasol, ar yr amod bod y gwaith adeiladu ar yr adeilad hwnnw eisoes wedi cychwyn, neu ei fod yn cychwyn o fewn 12 mis i ddyfodiad y Rheoliadau hyn i rym.

Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau Adeiladu wedi ei ddiwygio i adlewyrchu newidiadau i gyrff sy’n cymryd rhan mewn cynlluniau hunanardystio. Mae Deddf Adeiladu 1984 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo a dyroddi dogfennau sy’n cynnwys canllawiau ymarferol mewn cysylltiad â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu. Mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru.

Mae Dogfen Gymeradwy L Cyfrol 1, rhifyn 2022, Dogfen Gymeradwy F Cyfrol 1, rhifyn 2022 a Dogfen Gymeradwy O, rhifyn 2022 yn cynnwys canllawiau ymarferol ar fodloni’r gofynion newydd a fewnosodir yn y Rheoliadau Adeiladu gan y Rheoliadau. Mae’r Dogfennau Cymeradwy wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru a gellir eu cyrchu ar www.llyw.cymru.

Mae cyfnod o 6 mis rhwng y Rheoliadau yn cael eu gwneud a dyddiad eu dyfodiad i rym, sef 23 Tachwedd 2022, er mwyn caniatáu digon o amser i’r diwydiant baratoi ar gyfer y gofynion newydd.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Adeiladu 1984

Fe’u gwnaed ar: 20 Mai 2022

Fe’u gosodwyd ar: 24 Mai 2022

Yn dod i rym ar: 24 Mai 2022